Tŷ Catalina

Office, Light Industry

Pembroke Dock

760m²

REF: CATALINA

Ar gael

Read in English

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, mae Tŷ Catalina yn un o’r pedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n cael ei adnewyddu’n ofod gwaith modern hyblyg. Bydd yr eiddo wedi’i adnewyddu ar gael o gychwyn 2023 ac mae’n ddelfrydol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Mae’r adeilad deulawr hwn ger Awyrendy Western Sunderland, ac mae’n cael ei ailadeiladu i gynnig gofodau swyddfa a gweithdy ysgafn. Bydd yr adeilad yn cynnwys ystafell gynhadledd fodern, parcio a bydd yn agos iawn i fannau storio, y cei a mynediad at lithrfa.

Mae’r eiddo hwn yn 760m² dros ddau lawr, ac mae ar gael i’w osod yn gynnar yn 2023, gyda’r opsiwn i isrannu. Mae’r gofodau swyddfeydd yn amrywio o 37.8m² i 85m², ynghyd â dau ofod gweithdy yn mesur 118m² a 120m², ac ystafell gynhadledd ganolog 32m².

Pwyntiau allweddol

  • Gwresogi
  • Gofod swyddfa
  • Parcio
  • Toiledau
  • Lleoliad cyfleus
  • Cyfleusterau cyfarfod a chynhadledd

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar y safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad

I fod yn rhan o’r gwaith o ailddatblygu Tŷ Catalina, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.


Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.