The construction of a new supersize slipway and new workboat pontoons is now underway at Pembroke Port. It marks a big step forward in the realisation of the Port of Milford Haven’s vision for the Milford Haven Waterway to play a vital role in driving new green growth across the region, while supporting the country’s transition to a net zero future.

The new slipway will provide maximum flexibility for the launch and recovery of marine energy devices and vessels, while the pontoons will strengthen the Port’s operations and maintenance proposition for the floating offshore wind (FLOW) industry.

Commercial Director at the Port of Milford Haven, Steve Edwards, said:

“It’s fantastic to see this development underway at Pembroke Port. The new upgraded spaces and facilities will be perfect for the growing low carbon industry around the Celtic Sea as well as the supply chain companies that will benefit from the opportunities created here. We’re looking forward to seeing huge changes over the next eighteen months, working with industry and academia to maximise local and regional benefits.”

The works sit alongside the renovation of the Annexes attached to the Sunderland Hangars.  These are now midway through construction and will create new office and workshop spaces for industry. Later phases of the project will focus on creating large scale laydown spaces for device fabrication and development.

The modernisation of the Port’s infrastructure forms part of the Pembroke Dock Marine project, a £60m partnership between the Port of Milford Haven, Offshore Renewable Energy Catapult, Marine Energy Wales and Celtic Sea Power. The project is funded by the UK Government and Welsh Government through the Swansea Bay City Deal, and through the public and private sectors. It is also part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government.

This collaborative platform has already attracted companies from across the globe who are spearheading new research, development, and manufacturing in marine energy power generation, with an appetite to do much more. The Offshore Renewable Energy Catapult, the UK’s leading technology, innovation and research centre for renewable offshore energy, has also demonstrated its confidence in the area’s potential with the development of a multi-million pound Marine Energy Engineering Centre of Excellence based at Pembroke Dock.

Cllr Paul Miller, Pembrokeshire County Council Deputy Leader and Cabinet Member for Place, the Region and Climate Change, said:

“The Haven Waterway is inextricably linked to the health of the Pembrokeshire economy. We need to invest in the waterway in order to sustain employment but also to ensure it remains the UKs leading energy port.

“Up to 30% of the UK’s gas today, but also Green/Blue Hydrogen and Floating Wind Generated electricity tomorrow.

“These investments are the foundation upon which we hope the next generation of energy industry is built and along with it, the next generation of energy jobs.”

Cllr Rob Stewart, Chairman of the Swansea Bay City Deal’s Joint Committee said:

“The City Deal is making significant progress in its ambition to grow the economy and create employment opportunities in Pembrokeshire and across the region, with a focus on the energy sector and renewable technologies. We welcome BAM Nuttall onboard to construct the workboat pontoons and slipway at Pembroke Port, which will help regenerate the port area and support the wider blue-green energy economy. This exciting development, coupled with the recent approval of the City Deal Skills & Talent pilot project which will deliver essential skills in the renewable energy sector demonstrates that we are focused on lowering carbon emissions, supporting floating offshore wind and growing our young talent to support this sector.”

Civil engineering firm BAM Nuttall has been appointed to construct the new slipway and workboat pontoons. 

Ian Hubbard, BAM Regional Director for Southern England and Wales, said:

“The Port of Milford Haven has a vision for the regeneration of Pembroke Dock and BAM is delighted to play a role in that. The Port is ideally suited for servicing wave, tidal and wind power and this latest investment will help to improve the facilities on offer to the growing offshore renewables industry. BAM will be employing a mixture of local and specialist labour to deliver its works, so this contract will create jobs in the Pembrokeshire area as well as helping to modernise the port facilities.”

-Ends-

Photo caption: Representatives from across the region came together to celebrate the start of the construction of a new supersize slipway at Pembroke Port which will provide maximum flexibility for the launch and recovery of marine energy devices and vessels.

Photographed (l-r): Will Bramble, Pembrokeshire County Council Chief Executive; Ian Hubbard, BAM Regional Director for South England and Wales; Tom Sawyer, Port of Milford Haven Chief Executive; Pamela George, Mayor of Pembroke Dock Town Council; Jonathan Burnes, Swansea Bay City Deal Programme Director; Cllr Paul Miller, Pembrokeshire County Council Deputy Leader and Cabinet Member for Place, the Region and Climate Change.  

Notes to Editors:

Port of Milford Haven

The Port of Milford Haven is the UK’s top energy port and Wales’ busiest port handling around 20% of Britain’s seaborne trade in oil and gas.  It is widely recognised in the industry as the energy capital of the UK.

The Port, along with the cluster of energy-related businesses along the Waterway, is a key driver of economic activity in Pembrokeshire, attracting inward investment and supporting over 4,000 jobs.

The Port of Milford Haven also owns and operates Pembroke Port and Milford Dock.  Activities such as cargo handling, ferry operations, fish landing and cruise calls as well as a first class marina are spread across these two sites. 

One of the most prominent on the West Coast, the Port is in the heart of the Pembrokeshire Coast National Park, the only Coastal National Park in Great Britain. It is marked as a Special Area of Conservation (SAC) and has many areas designated as Sites of Special Scientific Interest (SSSI).

The Port of Milford Haven is a trust port – an independent, commercially run organisation that has statutory responsibilities governed by its Acts, to maintain and improve navigation and the provision of Port and Harbour services and facilities.  Additionally, the Port provides significant financial and in-kind support to a wide variety of local causes.  All profits are retained within the business to fund these objectives. 

For further information, visit www.mhpa.co.uk or contact:

Anna Malloy
Port of Milford Haven
01646 696100
anna.malloy@mhpa.co.uk 

 

Porthladd Aberdaugleddau yn torri tir newydd yn ystod cyfnod allweddol prosiect ynni adnewyddadwy morol

Mae’r gwaith o adeiladu llithrfa enfawr newydd a phontydd cychod ar gyfer cychod gwaith wedi dechrau ym Mhorthladd Penfro. Mae’n gam mawr ymlaen wrth wireddu gweledigaeth Porthladd Aberdaugleddau o ran Dyfrffordd Aberdaugleddau yn gwneud cyfraniad hanfodol wrth sbarduno twf gwyrdd newydd ledled y rhanbarth, a chefnogi trawsnewidiad y wlad i ddyfodol sero net yr un pryd.

Bydd y llithrfa newydd yn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf ar gyfer lansio ac adfer dyfeisiau a llongau ynni morol, a bydd y pontydd cychod yn cryfhau gweithrediadau’r Porthladd a’r cynnig cynnal a chadw ar gyfer y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr.

Meddai Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau:

“Mae’n wych gweld y datblygiad hwn ar waith ym Mhorthladd Penfro. Bydd y gofodau a’r cyfleusterau newydd hyn sydd wedi’u huwchraddio yn berffaith ar gyfer y diwydiant carbon isel sy’n tyfu o gwmpas y Môr Celtaidd ynghyd â’r cwmnïau cadwyn gyflenwi a fydd yn elwa ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu yma. Rydym yn edrych ymlaen at weld newidiadau enfawr dros y deunaw mis nesaf, gan weithio gyda diwydiant a’r byd academaidd i sicrhau’r buddiannau lleol a rhanbarthol mwyaf posibl.”

Mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r gwaith o adnewyddu’r Rhandai sydd ynghlwm wrth siediau awyrennau Sunderland. Rydym hanner ffordd gyda’r gwaith adeiladu bellach a byddant yn creu gofodau swyddfa a gweithdai newydd ar gyfer y diwydiant. Bydd cyfnodau diweddarach y prosiect yn canolbwyntio ar greu gofodau mawr ar gyfer cynhyrchu a datblygu dyfeisiau.

Mae moderneiddio seilwaith y Porthladd yn rhan o brosiect Morol Doc Penfro, sef partneriaeth £60 miliwn rhwng Porthladd Aberdaugleddau, Offshore Renewable Energy Catapult, Ynni Môr Cymru a Celtic Sea Power. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae’r platfform cydweithredol hwn eisoes wedi denu cwmnïau o bedwar ban byd sy’n arwain ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu newydd ym maes cynhyrchu pŵer ynni morol, ac mae yno awch i wneud mwy. Mae’r Offshore Renewable Energy Catapult, sef canolfan dechnoleg, arloesi ac ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr, hefyd wedi dangos ei hyder ym mhotensial yr ardal gyda datblygiad Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol gwerth miliynau o bunnoedd yn Noc Penfro.

Meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd:

“Mae cyswllt anorfod rhwng Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac iechyd economi Sir Benfro. Mae angen i ni fuddsoddi yn y ddyfrffordd er mwyn cynnal cyflogaeth ond hefyd i sicrhau bod hwn yn parhau yn borthladd ynni mwyaf blaenllaw’r DU.

“Hyd at 30% o nwy y DU heddiw, ond hefyd Hydrogen Gwyrdd/ Glas a thrydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ynni gwynt sy’n arnofio yfory.

“Y buddsoddiadau hyn yw’r sylfaen rydym yn gobeithio seilio cenhedlaeth nesaf y diwydiant ynni arnynt, ac yn sgil hynny y genhedlaeth nesaf o swyddi ynni.”

Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

“Mae’r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’r uchelgais i dyfu’r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn Sir Benfro a ledled y rhanbarth, gyda ffocws ar y sector ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Rydym yn croesawu BAM Nuttall i adeiladu’r pontydd cychod ar gyfer cychod gwaith a’r llithrfa ym Mhorthladd Penfro. Bydd hyn yn helpu i adfywio ardal y porthladd a chefnogi’r economi ynni glas-gwyrdd yn ehangach. Mae’r datblygiad cyffrous hwn, law yn llaw â chymeradwyaeth ddiweddar ar gyfer y prosiect peilot Sgiliau a Doniau’r Fargen Ddinesig, a fydd yn darparu sgiliau hanfodol yn y sector ynni adnewyddadwy, yn dangos ein bod yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, cefnogi ynni gwynt sy’n arnofio ar y môr a datblygu ein doniau ifanc i gefnogi’r sector hwn.”

Mae cwmni peirianneg sifil BAM Nuttall wedi’i benodi i adeiladu’r llithrffordd a’r pontydd cychod newydd ar gyfer cychod gwaith.

Meddai Ian Hubbard, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM ar gyfer De Lloegr a Chymru:

“Mae gan Borthladd Aberdaugleddau weledigaeth ar gyfer adfywio Doc Penfro ac mae BAM yn falch iawn o gyfrannu at hynny. Mae’r Porthladd mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwasanaethu ynni tonnau, llanw a gwynt a bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ein helpu i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r diwydiant ynni adnewyddadwy ar y môr sydd yn tyfu ar hyn o bryd. Bydd BAM yn cyflogi cymysgedd o lafur lleol ac arbenigol i wneud y gwaith, felly bydd y contract hwn yn creu swyddi yn ardal Sir Benfro ynghyd â helpu i foderneiddio cyfleusterau’r porthladd.”

-Diwedd-

Pennawd i gyd-fynd â’r llun: Daeth cynrychiolwyr o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd i ddathlu dechrau’r gwaith o adeiladu llithrfa enfawr newydd ym Mhorthladd Penfro a fydd yn darparu’r hyblygrwydd mwyaf posibl ar gyfer lansio ac adfer dyfeisiau a llongau ynni morol.

Ffotograff (o’r chwith i’r dde): Will Bramble, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro; Ian Hubbard, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM ar gyfer De Lloegr a Chymru; Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau; Pamela George, Maer Cyngor Tref Doc Penfro; Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe; y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd. 

Nodiadau i Olygyddion:

Porthladd Aberdaugleddau

Porthladd Aberdaugleddau yw prif borthladd ynni y DU a phorthladd prysuraf Cymru ac mae’n trafod oddeutu 20% o fasnach forol Prydain mewn olew a nwy. Mae’n cael ei gydnabod yn eang yn y diwydiant fel prifddinas ynni’r DU.

Mae’r Porthladd, law yn llaw â’r clwstwr o fusnesau cysylltiedig ag ynni ar hyd y Ddyfrffordd, yn sbardun allweddol o ran gweithgarwch economaidd yn Sir Benfro, gan ddenu buddsoddiad mewnol a chefnogi dros 4,000 o swyddi.

Mae Porthladd Aberdaugleddau hefyd yn berchen ar Borthladd Penfro a Doc Aberdaugleddau ac yn eu rhedeg. Mae gweithgareddau fel trafod llwythi, gweithrediadau llongau, glanio pysgod a llongau moethus yn angori ar gyfer ymweliadau ynghyd â marina o safon uchel wedi’u lledaenu dros y ddau safle hyn.

Mae’r Porthladd yn un o’r porthladdoedd amlycaf ar arfordir y Gorllewin ac mae yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, unig Barc Cenedlaethol Arfordirol Ynysoedd Prydain. Mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae llawer o ardaloedd wedi’u ddynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borthladd ymddiriedolaeth – mae’n sefydliad annibynnol sy’n cael ei redeg yn fasnachol ac sydd â chyfrifoldebau statudol a lywodraethir gan ei Ddeddfau, er mwyn cynnal a gwella mordwyo a darpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau Porthladd a Harbwr. Hefyd, mae’r Porthladd yn darparu cymorth ariannol ac mewn nwyddau i nifer o achosion lleol. Caiff yr holl elw ei gadw o fewn y busnes er mwyn ariannu’r amcanion hyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.mhpa.co.uk neu cysylltwch ag:

Anna Malloy
Porthladd Aberdaugleddau
01646 696100
anna.malloy@mhpa.co.uk