Members of the Pembrokeshire community have been successful in naming four new buildings that are being created to service the growing renewables industry in Pembrokeshire. The annexes attached to the historic Sunderland Hangars at Pembroke Port are being redeveloped into modern office and workshop spaces with work expected to be completed by Spring 2023.
A public competition was held giving people the chance to name the new buildings which attracted a wealth of creative suggestions and were judged by a panel consisting of the Chair of the Port of Milford Haven Chris Martin, Mayor of Pembroke Dock Councillor Joshua Beynon, Rik Saldanha from the Pembroke Dock Heritage Trust, Phil Collins from the West Wales Maritime Heritage Centre and Tim James, now at Celtic Sea Power.
The panel were delighted with the range of submissions and the chosen names Erebus House, Catalina House, Falcon House and Oleander House were suggested by David Lockwood, the Pembroke Dock Heritage Trust, Marie Sampson, Victoria Allen and Tyler Streitberger respectively.
Commercial Director at the Port of Milford Haven, Steve Edwards, commented “These structures date back to the early 1900s so we felt it was important to recognise and celebrate their heritage. Work is progressing well to give new life to the annexes and make them fit for industry. The wider Pembroke Dock Marine project is a huge opportunity to create hundreds of well paid jobs in the community, not only in the renewables sector but for the entire supply chain, so we’re really excited that work is underway on this phase of the development.”
Pembroke Dock Marine is expected to generate £73.5m annually to the regional economy, create opportunities for around 1,800 jobs for today’s workforce and the next generation, and contribute 1,000MW to UK and Welsh decarbonisation targets.
Pembroke Dock Marine is a partnership project between the Port of Milford Haven, Offshore Renewable Energy Catapult, Marine Energy Wales and Celtic Sea Power. It is funded by the UK Government and Welsh Government through the Swansea Bay City Deal, and through the public and private sectors. It is also part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government.
For more information on the facilities available within the hangar annexes visit www.pembrokeport.com/property
-Ends-
Photo caption: Modern office and workshop spaces are being created in the hangar annexes at Pembroke Port (CGI of completed project).
Notes to Editors
History of winning names
Erebus House
The HMS Erebus was built in Pembroke Dock, which at the time was the only Royal Dockyard in Wales. Launched in 1826, HMS Erebus went on to take part in John Franklin’s lost expedition under the command of James Clark Ross to the Antarctic in the 1840s, along with HMS Terror. The expedition was one of history’s greatest mysteries with both ships and its crew disappearing until there was a breakthrough in September 2014, when the shipwreck of HMS Erebus was discovered to the east of Queen Maud Gulf, Canada.
Catalina House
During World War II, the most used aircrafts at the time were the American-built PBY Catalina, which were originally introduced in the 1930s. The flying boat did not need a runway and played a significant role during the Battle of the Atlantic, with the Catalinas operating out of Pembroke Dock by the Royal Air Force, as well as the United States Navy.
Falcon House
The first of two HMS Falcons to be built at Pembroke Dock during the 1810s, launching in June 1820, was a Cherokee Class warship for the Royal Navy. The second HMS Falcon to be built in the Pembroke Dockyard was a Wooden Screw Sloop vessel, and was launched in August 1854 to serve during the Crimean War in the Baltic Sea, also participating in the siege off the coast of Courlan.
Fast forward to 1979, and a highly classified project, which still remains Pembroke Dock’s ‘worst kept secret’, saw the construction of a famous spaceship in the Western Hangar.
Oleander House
The last ship to be built at the Royal Naval Dockyard in Pembroke Dock was the RFA tanker Oleander, which was only one of six ships in its class.
Construction on the Oleander first started in December 1920 and it was launched in April 1922. RFA Oleander met its fate in May 1940 when the ship was severely damaged by a near miss during an air attack in Norway.
Trigolion Sir Benfro yn enwi adeiladau nodedig ym Mhorthladd Penfro
Mae aelodau o gymuned Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth i enwi pedwar adeilad newydd sy’n cael eu creu i wasanaethu’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro, diwydiant sy’n tyfu yn yr ardal. Mae’r rhandai, sydd ynghlwm wrth y Siediau Awyrennau Sunderland hanesyddol ym Mhorthladd Penfro, yn cael eu hailddatblygu’n swyddfeydd a gweithdai modern a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2023.
Cynhaliwyd cystadleuaeth gyhoeddus i roi cyfle i bobl enwi’r adeiladau newydd, a denwyd nifer o awgrymiadau creadigol. Y beirniaid oedd Cadeirydd Porthladd Aberdaugleddau Chris Martin, Maer Doc Penfro y Cynghorydd Joshua Beynon, Rik Saldanha o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro, Phil Collins o Ganolfan Dreftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru a Tim James, sydd bellach yn Celtic Sea Power.
Roedd y panel wrth eu bodd gyda’r amrywiaeth o geisiadau ac fe awgrymwyd yr enwau buddugol, Ty Erebus, Ty Catalina, Ty Falcon ac Ty Oleander gan David Lockwood o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro, Marie Sampson, Victoria Allen a Tyler Streitberger yn y drefn honno.
Dywedodd, Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau “Mae’r strwythurau hyn yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1990au felly roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig cydnabod a dathlu eu treftadaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i roi bywyd newydd i’r rhandai a’u gwneud yn addas i ddiwydiant. Mae prosiect ehangach Ardal Forol Doc Penfro yn gyfle anferth i greu cannoedd o swyddi â chyflog da yn y gymuned, nid yn unig yn y sector ynni adnewyddadwy ond ar draws y gadwyn gyflenwi, felly rydym yn wirioneddol gyffrous fod y gwaith ar y cam hwn o’r datblygiad wedi dechrau.”
Mae disgwyl i Ardal Forol Doc Penfro gynhyrchu £73.5 miliwn bob blwyddyn i economi’r rhanbarth, gan greu cyfleoedd ar gyfer tua 1,800 o swyddi i weithlu heddiw a’r genhedlaeth nesaf, a chyfrannu 1,000MW at dargedau datgarboneiddio Cymru a’r DU.
Prosiect partneriaeth rhwng Porthladd Aberdaugleddau, Offshore Renewable Energy Catapult, Ynni Môr Cymru a Celtic Sea Power yw Ardal Forol Doc Penfro. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael yn y rhandai, ewch i www.pembrokeport.com/property
-Diwedd-
Photo caption: Mae gofod ar gyfer swyddfeydd a gweithdai modern yn cael ei greu yn rhandai’r siediau awyrennau ym Mhorthladd Penfro (Delwedd o’r prosiect wedi’i gwblhau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur).
Nodiadau i Olygyddion
Hanes yr enwau buddugol
Erebus House
Adeiladwyd HMS Erebus yn Noc Penfro, yr unig Iard Longau Frenhinol yng Nghymru ar y pryd. Fe’i lansiwyd ym 1826 a chymerodd ran yng nghyrch coll John Franklin o dan arweiniad James Clark Ross i’r Antarctig yn y 1840au, ynghyd â HMS Terror. Roedd y cyrch yn un o ddirgelion mwyaf hanes oherwydd diflannodd y ddwy long a’r criw, nes i longddrylliad HMS Erebus gael ei ddarganfod ym mis Medi 2014 i’r dwyrain o Queen Maud Gulf, Canada.
Catalina House
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yr awyrennau oedd yn cael eu defnyddio amlaf oedd PBY Catalina a adeiladwyd yn America. Roedd y rhain wedi’u cyflwyno’n wreiddiol yn y 1930au. Nid oedd angen rhedfa ar yr awyrennau môr hyn ac roeddent yn rhan amlwg o Frwydr yr Atlantig, gydag awyrennau Catalina’n gweithredu o Ddoc Penfro gan yr Awyrlu Brenhinol, yn ogystal ag Awyrlu’r Unol Daleithiau.
Falcon House
Cafodd yr HMS Falcon cyntaf ei hadeiladu yn Noc Penfro yn ystod y 1810au, a chafodd ei lansio ym mis Mehefin 1820. Llong ryfel Dosbarth Cherokee oedd hon ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol. Yr ail HMS Falcon i’w hadeiladu yn Iard Longau Doc Penfro oedd llong Slŵp Sgriw Bren, a gafodd ei lansio ym mis Awst 1854 i wasanaethu yn ystod Rhyfel y Crimea ym Môr y Baltig, a bu’n rhan o’r gwarchae oddi ar arfordir Courlan.
Ymlaen â ni i 1979, ac fe gafwyd prosiect cyfrinachol iawn yma, sy’n dal i gael ei hadnabod fel y ‘gyfrinach fwyaf na lwyddwyd i’w chadw’ yn Noc Penfro, sef adeiladu llong ofod enwog yn Sied Awyrennau’r Gorllewin.
Oleander House
Y llong olaf i’w hadeiladu yn iard longau’r Awyrlu Brenhinol yn Noc Penfro oedd y tancer RFA, Oleander, un o chwe llong yn unig a adeiladwyd yn ei dosbarth.
Dechreuwyd adeiladu’r Oleander ym mis Rhagfyr 1920 ac fe’i lansiwyd ym mis Ebrill 1922. Daeth diwedd oes y llong pan gafodd ei difrodi’n ddifrifol ym mis Mai 1940 mewn ymosodiad awyr yn Norwy.