Pembroke Dock has a rich maritime history having been a military town for 150 years. Today, the former Royal Naval Dockyard is a commercial port that has an exciting future in the renewables industry.

The Port of Milford Haven forms a key part of the £60m Swansea Bay City Deal’s Pembroke Dock Marine project which will deliver the facilities, services and spaces needed to establish a world-class centre for marine energy and engineering. As part of this, four Grade II listed annexes attached to the Sunderland Hangars are in need of renovation to bring them into the 21st century and offered as flexible modern workspaces. The building works will begin in November 2021 and are on schedule to be completed by November 2022.

Today, the Port is launching a naming competition for the four annexes and is inviting submissions from members of the community. There are four suggested themes: heritage, renewable future, maritime and social history, but all ideas are welcome.

Commercial Director at the Port, Steve Edwards, said “Pembroke Port is steeped in history and we want to ensure we preserve these buildings so they can be used in the next exciting chapter. Pembroke Dock Marine offers huge opportunities for the town as well as the entire region, so it’s really important that we create desirable accommodation for businesses to establish themselves here. We want to involve the whole community in our plans by inviting memorable names with a back story to complement the developments.”   

To submit your suggestions, visit www.mhpa.co.uk/naming-competition by Monday 18th October.

Pembroke Dock Marine is funded by the Swansea Bay City Deal, the European Regional Development Fund through the Welsh Government, and through private investment.

-Ends-

 

Notes to Editors

Port of Milford Haven

The Port of Milford Haven is the UK’s top energy port and Wales’ busiest port handling around 20% of Britain’s seaborne trade in oil and gas.  It is widely recognised in the industry as the energy capital of the UK.

The Port, along with the cluster of energy-related businesses along the Waterway, is a key driver of economic activity in Pembrokeshire, attracting inward investment and supporting over 4,000 jobs.

The Port of Milford Haven also owns and operates Pembroke Port and Milford Dock.  Activities such as cargo handling, ferry operations, fish landing and cruise calls as well as a first class marina are spread across these two sites. 

One of the most prominent on the West Coast, the Port is in the heart of the Pembrokeshire Coast National Park, the only Coastal National Park in Great Britain. It is marked as a Special Area of Conservation (SAC) and has many areas designated as Sites of Special Scientific Interest (SSSI).

The Port of Milford Haven is a trust port – an independent, commercially run organisation that has statutory responsibilities governed by its Acts, to maintain and improve navigation and the provision of Port and Harbour services and facilities.  Additionally, the Port provides significant financial and in-kind support to a wide variety of local causes.  All profits are retained within the business to fund these objectives. 

Swansea Bay City Deal

The Swansea Bay City Deal is an investment of up to £1.3 billion in a portfolio of nine major programmes and projects across the Swansea Bay City Region, which are together worth over £1.8 billion and 9,000 jobs to the region’s economy in coming years. The region includes Pembrokeshire, Carmarthenshire, Swansea and Neath Port Talbot.

For further information, visit www.mhpa.co.uk or contact:

Anna Malloy
Port of Milford Haven
01646 696100
anna.malloy@mhpa.co.uk 

 

______

 

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau'r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a'u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg. Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.

Heddiw, mae'r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi'r pedwar rhandy ac mae'n gwahodd ceisiadau gan aelodau o'r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth, dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob syniad.

Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, "Mae Porthladd Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw'r adeiladau hyn yn ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i'r dref yn ogystal â'r rhanbarth cyfan, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu'r datblygiadau.”  

I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn dydd Llun 18 Hydref.

Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

-Diwedd-

 

Nodiadau i Olygyddion

Porthladd Aberdaugleddau

 

Porthladd Aberdaugleddau yw prif borthladd ynni y DU a phorthladd prysuraf Cymru ac mae'n trin tua 20% o fasnach Prydain mewn olew a nwy a gludir ar fôr. Mae'n cael ei gydnabod yn eang yn y diwydiant fel prifddinas ynni'r DU.

Mae'r Porthladd, ynghyd â'r clwstwr o fusnesau sy'n gysylltiedig ag ynni ar hyd y Ddyfrffordd, yn sbardun allweddol i weithgarwch economaidd yn Sir Benfro, ac mae’n denu mewnfuddsoddiad ac yn cefnogi dros 4,000 o swyddi.

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn berchen ar Borth Penfro a Doc Aberdaugleddau hefyd ac yn eu gweithredu. Mae gweithgareddau fel trin cargo, gweithrediadau fferi, glanio pysgod a mordeithiau yn ogystal â marina o'r radd flaenaf wedi'u gwasgaru ar draws y ddau safle hyn. 

Mae'r Porthladd yn un o'r rhai amlycaf ar Arfordir y Gorllewin, ac mae yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr unig Barc Cenedlaethol Arfordirol ym Mhrydain Fawr. Fe'i nodir fel Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae ganddo lawer o ardaloedd wedi'u dynodi'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borthladd ymddiriedolaeth - sefydliad annibynnol sy'n cael ei redeg yn fasnachol ac sydd â chyfrifoldebau statudol a lywodraethir gan ei Ddeddfau, i gynnal a gwella mordwyaeth a darparu gwasanaethau a chyfleusterau Porthladd a Harbwr. Yn ogystal, mae'r Porthladd yn darparu cymorth ariannol sylweddol a chyfraniadau o fath arall i amrywiaeth eang o achosion lleol.  Cedwir yr holl elw yn y busnes er mwyn ariannu'r amcanion hyn. 

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio sy'n cynnwys naw o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd ar y cyd gwerth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi'r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’r rhanbarth yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.